Enghraifft o'r canlynol | stiwdio animeiddio, cwmni cynhyrchu ffilmiau, stiwdio ffilm, cwmni cyhoeddus |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1994 |
Perchennog | Comcast |
Sylfaenydd | Steven Spielberg, Jeffrey Katzenberg, David Geffen |
Rhagflaenydd | Amblimation |
Isgwmni/au | Pacific Data Images |
Rhiant sefydliad | Universal Studios |
Ffurf gyfreithiol | Delaware corporation |
Cynnyrch | ffilm animeiddiedig |
Pencadlys | Glendale |
Enw brodorol | DreamWorks Animation LLC |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
Gwefan | https://www.dreamworks.com/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae DreamWorks Animation SKG, Inc. (NYSE: DWA) yn stiwdio animeiddio Americanaidd annibynnol sy'n cynhyrchu cyfresi o ffilmiau llwyddiannus o safbwynt ymateb y beirniaid ac yn fasnachol. Caiff y ffilmiau hyn eu hanimeiddio ar gyfrifiadur, ac maent yn cynnwys Shrek, Shark Tale, Madagascar, Over the Hedge, Bee Movie, Kung Fu Panda, Monsters vs. Aliens a How to Train Your Dragon. Ffurfiwyd y cwmni pan unodd adran ffilmiau animeiddiedig DreamWorks SKG gyda Pacific Data Images (PDI). Yn wrieddiol, cafodd ei ffurfio dan faner DreamWorks SKG, ond newidiodd i gwmni cyhoeddus ar wahan yn 2004.
Ar hyn o bryd, dosberthir y ffilmiau trwy Paramount Pictures (sy'n rhan o gwmni Viacom) a gymrodd reolaeth o DreamWorks SKG ym mis Chwefror 2006. Mae gan DreamWorks Animation ddwy stiwdio: y stiwdio animeiddio ffilmiau gwreiddiol yn Glendale, Califfornia a'r stiwdio PDI yn Ninas Redwood, Califfornia.